Chwilio:
Teithiau
Cerdded Lleol
Yn y wlad o gwmpas ceir rhwydwaith o lwybrau hanesyddol sy'n cynnig cyfle gwych i fwynhau taith gerdded. mwy >
Croeso i
Dolwyddelan
Mae pentref Dolwyddelan wedi’i leoli yn harddwch dyffryn Lledr, yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Er fod pentref twristiaeth prysur Betws y Coed o fewn pum milltir, mae Dolwyddelan yn ddistawach tra’n cynnig ystod rhagorol o deithiau cerdded o daith fer raddol i daith egnïol - hyn oll o fewn i harddwch cefn gwlad Cymru.
Mae Dolwyddelan yn adnabyddus oherwydd ei gastell mawreddog o’r 13eg Ganrif, a saif ar lecyn creigiog wrth droed Moel Siabod gyda golygfeydd trawiadol dros ddyffryn Lledr, a man geni honedig Llewelyn ap Iorwerth, gwir Dywysog Cymreig olaf Cymru.

Nid Eglwys Sant Gwyddelan, yr eglwys 15ed ganrif a saif yng nghanol y pentref, yw’r eglwys wreiddiol. Yn gynharach adeiladwyd eglwys bren ym Mryn y Bedd, bryncyn yn agos at y castell, ond pan ddaeth Maredudd ab Ieuan, un o gyndadau teulu’r Wynniaid o Lanrwst, i fyw yma at ddiwedd y 15ed ganrif, penderfynodd adeiladu eglwys ble gallai gadw golwg ar ei wylfäu ar Garreg Alltrem a’i dy newydd yng Nghwm Penamnen.
Tu fewn i’r eglwys mae Cloch Gwyddelan, credir fod Sant Gwyddelan wedi dod â’r gloch yma o’r Iwerddon yn y 7ed ganrif. Sylwch ar y sedd flaen ble gwelir y canlynol wedi’i gerfio arni yn Gymraeg “I’r dyla’ ei glyw”, a hefyd draig Dolwyddelan wedi’i cherfio ar drawst yn y rhan ogleddol.
Gyda’i gysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus rhagorol a digonedd a leoliadau parcio di-dâl, mae Dolwyddelan yn safle cychwynnol delfrydol ar gyfer niferoedd o deithiau cerdded diddorol. Yng nghanol y pentref mae siop y pentref, tafarn Y Gwydyr a Gwesty a bwyty Castell Elan. Ceir toiledau cyhoeddus yn y pentref ynghyd â gwasanaethau tren a bws rheolaidd; a ger safle’r orsaf, sydd wedi ennill sawl gwobr, mae safle picnic wedi’i leoli yn ei warchodfa natur ei hunan. Ceir gwasanaeth rhwydwaith symudol da iawn yn Nyffryn Lledr.
Calendr
Digwyddiadau
| ll | m | m | i | g | s | s |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | |
| 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 | 13 |
| 14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 | 20 |
| 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
26
26/06/2010 | 27 |
| 28 | 29 | 30 | ||||




