Chwilio:
Teithiau
Cerdded Lleol
Yn y wlad o gwmpas ceir rhwydwaith o lwybrau hanesyddol sy'n cynnig cyfle gwych i fwynhau taith gerdded. mwy >
Prosiect Tai Fforddiadwy
Gwaith Adeiladu 4 ‘Tŷ Unnos’ Fforddiadwy Dolwyddelan yn Dechrau
14 Gorffennaf 2010
(Gweler fwy o lyniau isod)
Crëwyd cynllun y ‘Tŷ Unnos’ gan gwmni Element’s Europe er mwyn datblygu tai fforddiadwy cynaliadwy fel bod modd i’r maes adeiladu ateb y galw am dai ar draws Prydain. Mae patent y system blwch-trawst ac ysgol wedi ei greu gan y cwmni gan ddefnyddio coedyn y byrwydden sitca gynhenid, deunydd adnewyddol sy’n cynnig strwythur fframwaith cryf. Caiff y rhannau eu hadeiladu oddi ar y safle, gan sicrhau llai o wastraff a mesurau rheoli ansawdd caeth, a chant eu hanfon i’r safle fel ‘pods’. Bydd y ‘pod’ cyntaf i gyrraedd Dolwyddelan yn cwblhau’r llawr gwaelod, gyda’r ail a’r trydydd ‘pod’ yn cwblhau’r llawr cyntaf a’r to.
Yn ôl Alwyn Llwyd, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i ni a’r gymuned leol yn Nolwyddelan. Mae adeiladu tai fforddiadwy i gymunedau sydd angen tai newydd yn achos o lawenydd, ond yma, yn Nolwyddelan, mae’r cynllun ei hun yn un blaengar. Bydd y tai, nid yn unig yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy ar dir a fu unwaith yn eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ond bydd elfennau cynaliadwy hefyd yn rhan o gynllun yr adeiladau er mwyn gwneud bywyd y trigolion yn llawer mwy gwyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys system adennill gwres a phaneli solar ar y to fel ffordd atodol o gynhesu’r dŵr. Bydd hyn yn sicr o leihau cost cynnal y cartref. Hoffwn ddiolch i’n partneriaid sydd wedi cydweithio ar y cynllun hyd yma, ac edrychwn ymlaen at weld y safle’n datblygu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”
Comisiwn Coedwigaeth Cymru a oedd yn rheoli’r tir ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi rhyddhau’r tir yn Nolwyddelan, er mwyn galluogi Cymdeithas Tai Clwyd i ddatblygu’r tai fforddiadwy i geisio diwallu’r angen sydd yn lleol am dai fforddiadwy. Dyma’r ail brosiect rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru a’r Gymdeithas Dai - cwblhawyd y cyntaf yn Ninas Mawddwy ym mis Hydref llynedd. Heddiw (dydd Mercher 14 Gorffennaf 2010) bydd y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri ar y safle, wrth i’r datblygiad £505,000, a ddiogelwyd trwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Tai Clwyd ddechrau.
Yn ôl Llion Derbyshire, Asiant Tir yr Ardal i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru: “Rydym yn hynod falch i weld ail lecyn tir a fu dan reolaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cael ei ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy. Yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri, bydd y tai, sydd ar dir 1.5 acer agored ym mhentref Dolwyddelan, yn cael eu hadeiladu i safon uchel mewn ffordd gynaliadwy. Fel y rheolwr tir unigol mwyaf yng Nghymru, bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyrraedd eu targed tai fforddiadwy yng nghefn gwlad."
Mae Cyngor Cymuned Dolwyddelan, Hwylusydd Tai Gwledig Siroedd Conwy a Dinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd wedi bod yn cydweithio ar y cynllun hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Cyngor Cymuned Dolwyddelan ysgogodd yr angen am dai fforddiadwy yn lleol, gan bod bron i 40 mlynedd ers i’r tai cyngor diwethaf gael eu hadeiladu yn y pentref.
Yn ôl Clerc Cyngor Cymuned Dolwyddelan Gwyn Roberts, sy’n un o drigolion y pentref: “Rydym mor falch o weld y diwrnod hwn yn cyrraedd, a’r gwaith yn dechrau ar y safle. Dechreuon ni wneud ymholiadau am dai fforddiadwy i’r pentref nôl ym mis Mehefin 2006, yn dilyn gwaith ymgynghori gyda thrigolion y gymuned. Mae hwn yn gynllun cyffrous i’r trigolion lleol, ac un all gynnig cyfleoedd i deuluoedd ifanc a chyplau sy’n awyddus i aros yn yr ardal a sefydlu cartref yma. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd ym mhrisiau tai wedi golygu bod prynu a rhentu cartrefi yn anodd iawn, yn enwedig mewn pentref tawel gwledig fel Dolwyddelan, felly bydd hwn yn gyfle gwych i bobl leol sy’n awyddus i aros yn yr ardal. Mi hoffwn ddiolch i’r Hwylusydd Tai Gwledig presennol a blaenorol am eu cefnogaeth a’u cymorth i gychwyn y gwaith yma gyda ni. Hefyd i Swyddogion Cymdeithas Tai Clwyd sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r daith. Mae Cerian Evans, yr Hwylusydd Tai Gwledig yma gyda ni heddiw i weld y gwaith datblygu’n dechrau.”
Yn ôl Gareth Jones, Aelod Cynulliad dros Aberconwy, mae’n rhaid talu teyrnged i’r gymuned leol am eu harweiniad: “Mae criw diwyd yn Nolwyddelan sydd wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ffyniant i’r pentref. Rhaid talu clod iddynt am eu gwaith. Mae gweld dechrau’r gwaith heddiw yn arwydd o’u dyfalbarhad a’u dygnwch. Trwy godi tai fforddiadwy o fewn eu cymuned maent yn sicrhau’r cyfle i bobl ifanc sefydlu yn eu hardal wledig gan gynnig hyder i’r pentref. Mae buddsoddi adnoddau cynaliadwy yn y gymuned hefyd yn hyrwyddo a chryfhau’r pentref i’r dyfodol. Mae’r cwbl yn llwyddiant oherwydd y cydweithio gwych sydd wedi digwydd rhwng yr holl bartneriaethau - llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd!”
Eleni, bydd tri chynllun tai gwledig arall yn cael eu datblygu gan Gymdeithas Tai Clwyd mewn partneriaid ag asiantaethau eraill. Un ym Mhentredŵr, Llangollen; un arall yng Nghynwyd ger Corwen a datblygiad pellach yn Llangadfan ger Y Trallwng. Cyfanswm buddsoddiad y pedwar cynllun fydd £1,825,000.
Bydd Cymdeithas Tai Clwyd yn datblygu 63 o gartrefi eleni – y record fwyaf yn hanes rhaglen ddatblygu’r sefydliad, a hynny o fewn cyllideb o £16 miliwn*. Dyma’r rhaglen ddatblygu flynyddol fwyaf yn hanes sefydlu’r Gymdeithas, 30 mlynedd yn ôl. Bydd y 63 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yng ngogledd Cymru yn 2010 – 2011, gan gynnwys dau gynllun tai gofal ychwanegol ar gyfer yr henoed yn Y Bala a Rhuthun.
* Mae £9.5 miliwn o’r gyllideb wedi ei ddiogelu trwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad, gyda gweddill yr arian, £6.5miliwn yn cael ei glustnodi trwy gyllid preifat Cymdeithas Tai Clwyd.





