Dolwyddelan Dolwyddelan Dolwyddelan Dolwyddelan Dolwyddelan Dolwyddelan

Awst 5

Gwobrau Cymunedol Goreuon Conwy

Gwobrau Cymunedol Goreuon Conwy, Gobr Adfywio Cymunedol - Menter Siabod 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynnal y Gwobrau Cymunedol Goreuon Conwy cyntaf i gydnabod gwaith a phrosiectau yng Nghonwy sydd er lles y Gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Ronnie Hughes, Rheolwr Busnes y Cabinet, “Roeddem eisiau cydnabod y gwaith aruthrol sy’n cael ei wneud mewn cymunedau a chydnabod ymrwymiad pobl i wella’r llefydd y maent yn byw. Roedd y Gwobrau hyn yn gyfle ardderchog i bobl gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.”

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dilwyn Roberts, yr enillwyr a diolchodd i bawb oedd wedi cyflwyno enwebiadau. Dywedodd “I mi, roedd pob un ohonynt yn enillwyr, ac rwy’n falch o fod yn Arweinydd yng Nghonwy oherwydd rwy’n gwybod pa mor angerddol yw pobl am wneud gwahaniaeth a gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i fyw mewn ardal mor arbennig”.

Enwebwyd mwy na 50 o unigolion a grwpiau am y Gwobrau, oedd yn gyfanswm o gannoedd o bobl. Dathlodd yr enillwyr a’r unigolion eraill oedd ar y rhestr fer mewn seremoni yn Venue Cymru ar 29 Mehefin.

Yr enillwyr oedd:

Gwobr Adfywio Cymunedol: Menter Siabod, am Brosiect Cymunedol Dolwyddelan.
Yn agos i’r brig: Crest Co-operative, Rhwydwaith Busnes Bae Colwyn

Hyrwyddwr Cymunedol: Jenny Hughes o Hen Golwyn.
Yn agos i’r brig:  William McMillan, Peter McFadden

Balchder Bro: PeBel
Yn agos i’r brig: Dr Good & Mrs Pamela Good (Penmaenmawr), Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, Diwreiddio chwyn clymog (Cwm Penmachno)

Y Prosiect Cymunedol Arloesol Gorau: Cymru Community Food Share
Yn agos i’r brig: Ffederasiwn Amgylcheddol Hen Golwyn, Canolfan Alw i Mewn Gwarchod y Gymdogaeth (Llandudno)

Rhandir Mwyaf Cymen: Mrs S Evans o Lanfairfechan
Yn agos i’r brig: Mr G Williams, Susan Hughes & Warner Lloyd

Y Gweithgaredd Diwylliannol Gorau: Golygfa Gwydyr
Yn agos i’r brig: Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm (Cwm Penmachno), Gŵyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy

Y Digwyddiad Cymunedol Gorau: Gwledd Conwy Feast
Yn agos i’r brig: Marchnad Wledig Llandrillo-yn-Rhos, Y Strafagansa Fictoraidd (Llandudno)