Yr Ardd Bywyd Gwyllt

Wildlife park

 

 

Mae’r ardd bywyd gwyllt i’w chael yn ymyl maes parcio’r Orsaf Drenau ac mae o’n lle braf i gael picnic. Ceir nifer o baneli dehongli yno, yn llawn gwybodaeth am fywyd gwyllt yr ardal. Mae’r parc a gerddi’r orsaf yn cael eu cynnal a’u cadw gan aelodau Dolwyddelan yn ei Flodau ac wedi ennill sawl gwobr. Mae digon o le i eistedd yno ac mae biniau sbwriel yno hefyd. Mae o hefyd, oherwydd y maes parcio, yn fan cychwyn (a gorffen) delfrydol i daith gerdded.

This post is also available in: English