Eglwys Gwyddelan Sant

St Gwyddelan's aMae Eglwys Gwyddelan Sant fel ag y mae hi heddiw oddeutu 500 mlwydd oed. Fe’i hadeiladwyd hi gan Faredudd ab Ieuan sefydlwr llinach Wynniaid Llanrwst tua’r flwyddyn 1500. Mae’r eglwys wedi ei chysegru i Wyddelan Sant (y Gwyddel bychan/annwyl), a ddaeth i Gymru yn y 5ed ganrif. Adeiladwyd yr eglwys wreiddiol o bren ar Fryn y Bedd ond fe’i dymchwelwyd hi yn y 15fed ganrif pan godwyd yr un gyfredol. Defnyddiwyd rhai o ddeunyddiau’r hen un yn yr un newydd, oedd ar y pryd yn eglwys corff a changel; ychwanegwyd y capel deheuol yn y 16eg ganrif gan Robert Wynn, un o ddisgynyddion Maredudd. Codwyd porth i’r fynwent yn 1736 (mae’r garreg ddyddio i’w gweld yn y wal ar ochr ogleddol y porth cyfredol, a godwyd yn 2006).

To ‘carreg mwsog’ oedd ar yr eglwys newydd yn wreiddiol, sef llechi gyda mwsogl yn llenwi’r bylchau rhyngddyn nhw. Byddai’r mwsogl yn atal drafft ond yn caniatáu i’r adeilad ‘anadlu’ ac felly’n rhwystro tamprwydd; mae’r trawstiau wedi eu clymu gan begiau pren a phan gafodd y to ei atgyweirio’n ddiweddar, dim ond un o’r trawstiau cyplysu (trusses) oedd angen ei newid! Oddeutu’r flwyddyn 1850 fe ychwanegwyd y cyntedd, y croesau ar y waliau talcen, clochdy newydd, y ffenestr orllewinol, ac fe osodwyd ffenestr yn lle’r porth deheuol. Sylwch ar yr hen ddrws sy’n dal â’r morthwyl nawdd arno.

St Gwyddelan's f

Yr eglwys oddeutu’r flwyddyn 1890

2010

Yr eglwys yn 2010

St Gwyddelan's dYn crogi o un o drawstiau’r eglwys mae ‘Cloch Wyddelan‘ sy’n hen gloch law Geltaidd. Mae’r gloch wedi ei gwneud o efydd bwrw ac fe gredir ei bod yn dyddio o oddeutu’r flwyddyn 800 Oed Crist. Roedd pobl yn credu mai cloch Gwyddelan ei hun oedd hi ac iddo ddod â hi efo fo o’r Iwerddon dros 1500 o flynyddoedd yn ôl.

Fe gafwyd hyd i’r gloch wrth gloddio Bryn y Bedd yn 1850, sef safle’r hen eglwys a lle, yn ôl y chwedl, y gosododd Sant Gwyddelan ei groes bregethu pan gyrhaeddodd Ddolwyddelan yn y 5ed ganrif. Daeth Maredudd ab Ieuan, pen teulu brenhinol Cunedda a chyndaid i Wynniaid enwog Gwydir, i fyw i Gastell Dolwyddelan yn niwedd y 15fed ganrif. Daeth yn dad i ugain o blant ac aeth y castell, yn ôl y sôn, yn rhy fach i’r teulu ac felly fe gododd dŷ mwy aar eu cyfer yn uwch i fyny’r dyffryn yng Nghwm Penamnen.

St Gwyddelan's e

Bryd hynny, roedd yr ardal yn bla o ladron a dihirod oedd yn byw “dan nawdd” Urdd Marchogion Sant Ioan yn Ysbyty Ifan. Roedd y gwylliaid yma’n fygythiad i bawb yn yr ardal a phenderfynodd Maredudd fynd i’r afael â nhw. Un o’r pethau a wnaeth oedd dymchwel yr hen eglwys a chodi’r un gyfredol, oedd yn nes at ei gartref ac mewn lle mwy manteisiol o ran cynnal ei ymgyrch a gwarchod ei dŷ a’i deulu. 

St Gwyddelan's bYn ôl y sôn, byddai’n gwisgo’i holl arfwisg a’i gleddyf pan fyddai’n mynd i addoli yn yr eglwys newydd. Gallai weld gwylwyr ei dŷ o’i sedd ac  unrhyw rybudd fyddai ganddyn nhw fod ymosodwyr ar y gorwel. Yn y diwedd fe gafodd Maredudd wared ar y dihirod a fu’n gymaint o boen i’r ardal. Bu farw ym 1525 ac fe’i claddwyd yma ym mynwent eglwys Sant Gwyddelan.

Dyma un o’r esiamplau gorau o eglwys 16eg ganrif yng ngogledd Cymru. Mae awyrgylch hyfryd yma ac mae’n lle hynod i addoli. Rydym yn argymell yn gryf i chi ymweld â hi.

St Gwyddelan's c1984 – Difrodwyd y cwt clychau gan ddaeargryn, ond fe’i ailadeiladwyd a chrogwyd y gloch yno unwaith eto. Aethpwyd ati ar yr un pryd i atgyweirio’r eglwys a gosodwyd gwres a golau newydd ynddi, ynghyd â ffenestr goffa yn ochr y capel a festri ym mhen gorllewinol corff yr eglwys.

2006 – Cwympodd porth y fynwent pan faciodd lori sbwriel y Cyngor Sir iddo. Ailadeiladwyd y porth gyda derw newydd yn lle’r coed a falwyd.

Mae gwasanaethau rheolaidd i’w cael yn eglwys Sant Gwyddelan ac fe’u cynhelir yn y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog. Mae’r eglwys yn rhan o brosiect y Teithiau Cysegredig, a ariannwyd gan Gynllun Datblygu Gwledig Conwy, ac mae dygwyl y Sant ar yr 22ain o Awst.

This post is also available in: English