Pysgota

Fishing on the Afon Lledr b

Mae Cymdeithas Bysgota Dolwyddelan yn meddu ar hawliau pysgota ar hyd y Lledr.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn nechrau 1940 gan bobl leol, ond er mwyn codi arian i gynnal y Gymdeithas a helpu talu’r rhenti, fe gynigiwyd aelodaeth tocyn tymor i dwristiaid, ymwelwyr wythnosol a pherchnogion tai haf. Mae nifer yr aelodau wedi bod yn eithaf gyson dros y blynyddoedd diwethaf gyda tua phymtheg ohonyn nhw’n bobl leol a rhwng pymtheg a dau ar bymtheg yn ymwelwyr.

Mae trwyddedau Pobl Leol a thrwyddedau Ymwelwyr – trwyddedau tymor, wythnos neu ddiwrnod – ar gael o siop SPAR Dolwyddelan.

Pysgota eog a brithyll sydd i’w gael yn bennaf ar y Lledr ac mae haig dda o eog i’w chael yn yr afon o’n gynnar ym mis Medi hyd at ddiwedd y tymor ar Hydref yr 17eg. Bydd pysgota am frithyll môr (gleisiad) yn digwydd gyda’r nos. 

Eog wedi’i ddal gan aelod newydd – Jim Whitmore, Awst 2020

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

This post is also available in: English