Ynglŷn â Menter Siabod ?

menter siabod logo copy 2

Mae Menter Siabod yn brosiect blaengar a gafodd ei sefydlu yn 2003 gan drigolion Dolwyddelan ac sydd wedi dod â bywyd newydd i’r pentref.

Ers 30 mlynedd bu’r gymdeithas yn araf ddihoeni gyda’r swyddi traddodiadol yn dod i ben a theuluoedd yn gadael i edrych am waith.

Erbyn heddiw mae pethau wedi newid. Gyda chyngor, cefnogaeth a chymorth ariannol gan y Bartneriaeth Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill, mae Menter Siabod wedi llwyddo i weddnewid sefyllfa’r pentref. Rhan allweddol o waith y grŵp ydy sicrhau perthynas dda gyda’r Cyngor Cymuned, Llywodraethwyr yr Ysgol a’r gymuned yn ei gyfanrwydd.

The Old Pavilion a copyY dasg gyntaf a’r fwyaf i’r grŵp ymgymryd â hi oedd adnewyddu’r hen bafiliwn pêl droed a’i throi’n fan cyfarfod i grwpiau, twristiaid a’r gymuned. Mae’r Pafiliwn bellach yn gartref i sawl un o grwpiau’r pentref gan gynnwys y clwb ieuenctid, grwpiau celf, crefft, technoleg gwybodaeth a llawer o rai eraill.

 

Finished! copy 2Prosiect mawr nesaf y grŵp oedd adeiladu parc chwarae antur gyda help yr awdurdod lleol a’r Cynghorydd Sir ar y pryd, y Cynghorydd Islwyn Griffiths. Wedyn fe ddaeth prosiect y Gofeb Rhyfel lle bu i’r Cyngor Cymuned, gyda chymorth arian o Gronfa Allweddol Conwy, llunio gardd brydferth o amgylch y gofeb a gosod meinciau yno.

War memorial

Mae arwerthiant pen bwrdd a bore coffi yn y Pafiliwn bob wythnos ac mae’r adeilad yn gartref i Gydweithfa Fwyd Dolwyddelan hefyd. At hyn, mae grŵp Dolwyddelan yn ei Blodau yn cwrdd yn y Pafiliwn ar brydiau- pan nad ydyn nhw wedi eu torchi eu llewys yn rhofio pridd.Table Top Sale, August 2008 b copy

Mae Dolwyddelan yn ei Blodau a grŵp ieuenctid Cylch yr Ifanc wedi mabwysiadu gorsaf drenau’r pentref. Cafodd yr orsaf ei hadnewyddu’n ddiweddar ac mae hi wedi cipio gwobrau lleol, Cymreig a Phrydeinig. Mae’r ddau grŵp yma ynghyd â Sefydliad y Merched a gwirfoddolwyr eraill wedi helpu i wneud ein pentref yn le mwy lliwgar.

b copyld100508-dolwyddelan

Ers i Fenter Siabod ddechrau ar eu prosiectau mae poblogaeth y pentref wedi peidio â lleihau, ac yn wir, wedi dechrau cynyddu. Yn ôl Liz Roberts, cadeirydd Menter Siabod a chynghorydd sir yr ardal “Mae teuluoedd gyda swyddi proffesiynol yn symud yn ôl yma i fyw oherwydd bwrlwm bywyd y gymuned.”

Caiff cyfarfodydd cynllunio eu cynnal yn y Pafiliwn bob mis – mae’r rhain yn ffordd wych o gwrdd â phobl y pentref ac o gymryd rhan mewn prosiectau cyffrous sydd o fudd i’r fro. Mae croeso cynnes i bawb fynychu ac fe all unrhyw un fod yn aelod.

This post is also available in: English