Hunan Arlwyo


Bod Owain
Lle cysgu i: 4
1 x Gwely dwbl 1 x Gwely gefell 
Cyfeillgar i gŵn

 Mae ‘Bod Owain’ yn fwthyn cyfforddus ag offer da oedd yn arfer bod yn fwthyn i chwarelwyr. Mae ganddo ystafell fyw glyd gyda thrawstiau traddodiadol a stôf aml-danwydd, ystafell fwyta ar wahân a chegin lawn wedi’i gosod. I fyny’r grisiau, yn ogystal â’r ystafelloedd gwely mae ystafell ‘ymolchi fodern gyda bath a chawod drydanol. 

Y tu allan mae gardd â wal o’i chwmpas.

Mae Bod Owain yn agos i’r eglwys a rhyw funud neu ddau i ffwrdd o’r siop a’r dafarn.
Pat ac David Croot
Rhent: £70 y noson trwy gydol y flwyddyn. Isafswm o 4 noson.
Ffôn: 01604 890719

Ty Capel Isa
Lle cysgu i: 4
2 x Gwely dwbl
Bwthyn cyfforddus a chlyd gyda thân go iawn, dwy ystafell wely dwbl gyda gwely dwbl yr un, ystafell gawod newydd, cegin newydd ei gosod, gardd a lle parcio preifat oddi ar y ffordd.  Fe allwch chi gerdded i’r dafarn yng nghanol y pentref mewn pum munud ac i’r orsaf drenau mewn dau funud.

Barbara ac Mike Williams

Rent: 3 nosweithiau £255 to £345 / 4 nosweithiau£340 to £460 / £525 – £665 wythnos(10% discount for couples using one bedroom)

Gwefan: www.betwsycoed.me.uk/cottage
Ebost: bwilliams1690@gmail.com
Ffôn: 07527 337 736 or 077400 76000


Ty’r Delyn
Lle cysgu i: 4
1 x Gwely dwbl 1 x Gwely sengl 1 x Gwely sengl (with extra stow away bed)
Anifeiliaid – un ci
Mae ‘Tŷ’r Delyn’ yn fwthyn 3 llofft cyfforddus yng nghanol rhes o dai teras sy’n addas ar gyfer cerddwyr penwythnosol a gwyliau hirach. 

Mae’r adeilad yn gyfuniad deniadol o ddau fwthyn i chwarelwyr ac mae modd cerdded i ganol y pentref mewn rhyw 5 munud. Mae gardd gaeedig y tu ôl i’r bwthyn y mae modd mynd ati dros font droed dros afon fechan sy’n llifo i lawr o dan y ffenestri cefn (mae ffens ddiogelwch o amgylch y bont droed a’r afon: bydd angen cadw llygad ar blant). O’r ardd fe allwch chi weld y mynyddoedd o gwmpas – fe allwch chi weld Yr Wyddfa a Chastell Dolwyddelan ar ddiwrnod clir. Mae ardal batio fach yno ichi fwynhau barbeciw ar lan yr afon.

Trefor ac Alison Vaughan

Rhent: Penwythnos: £156 (outside school holidays) / Wythnos: £230 – £460.
Gwefan:  www.snowdoniacottage.co.uk
Ffôn: +44 (0)1494 763328

 


Y Neuadd Lwyd
Lle cysgu i: 4
2 x Gwely dwell
1 croeso i gi bach / canolig ar gais

Mae’r ‘Neuadd Lwyd’ yn fwthyn cerrig rhestredig Gradd II yng nghanol Dolwyddelan ond heb iddo fod yn rhy agos at y ffordd. Mae rhodfa graean yn arwain at y bwthyn gyda lle parcio preifat i 2 gar. Mae gardd iard ddiogel hefyd lle gallwch fwynhau golygfeydd godidog dros Foel Siabod a chefn gwlad bendigedig Eryri a thu hwnt. Yn ystod misoedd y gaeaf gallwch eistedd o flaen stôf llosgi coed yn y lolfa gysurus. Yna, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, pan fydd hi wedi cynhesu, gallwch gamu allan drwy ddrysau dwbl at estyll a dodrefn yn yr ardd. Mae cegin fodern yn y bwthyn gydag wynebau gwaith gwenithfaen, peiriant golchi llestri, popty trydan, hob a’r holl sosbenni ac ati fydd eu hangen arnoch chi yn ystod eich gwyliau. Mae’r bwthyn yn daith 2 funud ar droed i’r siop a’r dafarn leol ac mae ond yn 10 munud mewn car i Fetws-y-coed.   

Helen Chapman  

Rhent: Gwyliau byr yn ystod adegau tawel o’r flwyddyn o £95 y noson (lleiafswm o 2 noson). Cyfraddau wythnosol yn ystod adegau prysuraf y flwyddyn drwy archebu’n uniongyrchol o £385 – £770
Ebost: yneuaddlwyd@hotmail.co.uk
Ffôn: 01690750440
Ffôn: 07497 349388


Os hoffech chi hysbyseb eich hunan arlwyo yma, cysylltwch â’r Pafiliwn Cymunedol     [Cysylltu â ni >>]

This post is also available in: English