Y Ganolfan Gymunedol

Llogi’r Ganolfan Gymunedol – Mae’r Ganolfan Gymunedol yn rhan o adeilad Ysgol Dolwyddelan ac yn berffaith ar gyfer partion plant, dosbarthiadau ymarfer corff, aduniadau teuluol a gweithgareddau grŵp o bob math.

Mae yno neuadd fawr gyda llwyfan, byrddau a chadeiriau, ynghyd â chegin fach sydd newydd ei hadnewyddu ac yn cynnwys popeth y mae ei angen ar gyfer paratoi paned neu luniaeth ysgafn a digon o lestri a chyllyll a ffyrc. Mae lle hefyd i barcio 20 neu fwy o geir yn y maes parcio gerllaw.

Prisiau llogi’r Ganolfan yn cychwyn o gyn lleied â £10.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Brifathrawes Mrs Nia Jones-Artell neu gydag Ali Valintine ar (01690) 750293

This post is also available in: English