Dolwyddelan

gateway [W]
dolwyddelancastleMae Dolwyddelan yn adnabyddus am ei gastell mawreddog 13eg Ganrif sy’n sefyll ar graig uwchben y pentref ac yng nghysgod Moel Siabod. Dyma fan geni Llywelyn ap Iorwerth, Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymreig olaf Cymru.

Homepage - Church [Welsh]Yng nghanol y pentref mae Eglwys Sant Gwyddelan, a adeiladwyd yn y 15ed ganrif. Roedd eglwys wedi bod yn Nolwyddelan am ganrifoedd cyn hynny, un pren, ar Fryn y Bedd, bryncyn heb fod ymhell o’r castell. Codwyd yr un ‘newydd’ gan Faredudd ab Ieuan, un o gyndadau teulu Wynniaid Llanrwst, a hynny yn ôl y sôn er mwyn gallu gwylio rhag ymosodiadau ar ei diroedd a’i dŷ newydd yng Nghwm Penamnen tra’i fod o’n addoli!

medowY tu mewn i’r eglwys fe welwch chi Gloch Gwyddelan, cloch y daeth Sant Gwyddelan â hi yma o’r Iwerddon yn y 7ed ganrif. Sylwch hefyd ar y sedd ar gyfer y trwm eu clyw yn nhu blaen yr eglwys ag arni’r geiriau “I’r dyla’ ei glyw”. Hefyd, ar un o drawstiau ochr ogleddol yr eglwys mae cerflun o ddraig Dolwyddelan.

Nordic Walking fMae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus Dolwyddelan yn rhagorol; mae gwasanaeth bws a thrên rheolaidd, ac i berchnogion ceir mae digonedd a lefydd parcio rhad ac am ddim. Mae yma doiledau cyhoeddus a rhwydwaith ffôn symudol dda iawn.  Ar ôl bod am dro beth am ymweld â’r warchodfa natur fach sydd yn ymyl yr orsaf drenau, un sydd wedi ennill sawl gwobr, i gael picnic. Neu beth am alw heibio siop y pentref neu dafarn y Gwydyr neu fwyty Gwesty Castell Elan am bryd o fwyd cynnes? 

IMG_20141208_110924356_HDR

This post is also available in: English