Cyflwyniad i’r teithiau cerdded …

Rhagymadrodd

Mae Coedwig Gwydyr yn un o goedwigoedd harddaf Prydain. Mae hi’n gorwedd  fel cwrlid gwyrdd dros fynyddoedd dyffrynnoedd gogleddol Eryri o’i chribau geirwon llwyd at lannau ei hafonydd chwim a’i llynnoedd tawel. Mae rhan mwyaf gogleddol y goedwig, o gwmpas Betws y coed a Llanrwst, yn haeddiannol boblogaidd; ond i ddianc rhag y dorf dewch i’r rhan ddeheuol, i’r coed o gwmpas Dolwyddelan a Phenmachno. Mae yma lefydd diarffordd, llwybrau a llefydd hanesyddol, tirwedd naturiol gwyllt a golygfeydd syfrdanol o fynyddoedd Eryri. Mae pentrefi Dolwyddelan a Phenmachno, pentrefi a oedd yn gymunedau mawr a phrysur pan oedd eu chwareli llechi yn eu hanterth, yn ganolfannau rhagorol i’r cerddwr. Mae hefyd eglwysi hynafol i’w cael yn y ddau bentref, ac mae nifer a maint eu capeli’n tystio i sêl teuluoedd y chwarelwyr dros Gristnogaeth anghydffurfiol yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Mae yn y wlad o gwmpas y ddau bentref rwydwaith o lwybrau difyr a hanesyddol sy’n llefydd gwych i fwynhau taith gerdded. Dyma syniad neu ddau am yr hyn y gellwch ei wneud:

  • Cerdded yr un ffordd â’r llengoedd Rhufeinig ar hyd Sarn Helen rhwng Caerhun a’u gwersyll mawr yn Nhrawsfynydd.
  • Dilyn ôl troed y porthmyn a gerddodd gyda’u gwartheg o’r mynyddoedd i’r marchnadoedd yn ninasoedd Lloegr.
  • Olrhain llwybrau’r chwarelwyr ar y llethrau a gweld olion trawiadol yr hen chwareli.
  • Dringo i gastell ramantus Dolwyddelan, un o gadarnleoedd Tywysogion Gwynedd yn yr Oesoedd Canol.
  • Rhyfeddu at geunentydd a rhaeadrau gwyllt Afon Machno ac Afon Conwy oedd yn atyniad mawr i ymwelwyr Oes Fictoria.
  • Dysgu am yr ysgolhaig, yr Esgob William Morgan, a’i gyfraniad at yr iaith Gymraeg drwy ymweld â man ei eni yn Nhŷ Mawr Wybrnant.
  • Ymweld ag adfeilion canoloesol Tai Penamnen a godwyd yn gartref teuluol gan Faredudd ab Ieuan, yr uchelwr grymus a hendad teulu Wynniaid Llanrwst.
  • Rhyfeddu at grefftwaith Pont Gethin, y draphont Fictoraidd fawreddog dros y Lledr a adeiladwyd gan y peiriannydd enwog Gethin Jones .

Yn y ffeiliau fe gewch chi ddisgrifiad o nifer o’r teithiau cylchol sy’n arwain o’r un pentref i’r llall, ac o deithiau eraill hirach sy’n cysylltu Dolwyddelan a Phenmachno â Chapel Curig a Betws y Coed. Mae trenau’n dod yn rheolaidd o Fetws y Coed i Ddolwyddelan a bysiau’n rhedeg drwy’r ddau bentref (rheswm i beidio â defnyddio’r car ar rai o’ch teithiau!) Holwch am amserlen yng Nghanolfan Groeso Betws y Coed (Ffôn: 01690 710426) neu ffoniwch Traveline Cymru (08706082608) am fanylion.


Cyngor i Gerddwyr

Mae’r ffeiliau’n cynnig cyfarwyddiadau cryno ynghylch pa ffordd i fynd, ond gan nad oes arwyddion ar nifer o’r llwybrau mae o’n hanfodol mynd â map Explorer OS 1:25000 efo chi hefyd. Wrth gerdded y mynydd mae o’n bwysig cymryd gofal arbennig a defnyddio eich map.

Mae gofyn i chi hefyd ufuddhau i’r Côd Cefn Gwlad a chadw eich ci ar dennyn, yn arbennig pan fyddwch chi ar dir lle mae anifeiliaid fferm.

Mae’r cyfarwyddiadau’n cynnig amcan bras o bellter pob taith, ond fel canllaw, mae pob 1km yn cymryd oddeutu 15 munud wrth gerdded yn hamddenol ar dir gwastad, ac ychydig yn fwy wrth gerdded ar i fyny (oddeutu 1 munud yn ychwanegol am bob 10m o esgyn). Mae’r amser a roddir ar gyfer y teithiau’n cynnwys amser seibiant.

Dillad

Rhaid gwisgo esgidiau cerdded a chofio mynd â dillad glaw, bwyd a dŵr efo chi ar y teithiau. Gall rhai o’r llwybrau yn y coed ac ar y mynydd fod yn wlyb iawn.
Nodwch fod y taflenni wedi eu cyhoeddi ar ddechrau 2008, a gan fod llawer o’r teithiau mewn coedwigoedd lle mae dynion yn gweithio, fe all y llwybrau newid o’r herwydd. Os gewch chi wybod am unrhyw newidiadau i’r llwybrau neu os hoffech chi gynnig mwy o wybodaeth am y teithiau cysylltwch â mentersiabod@directsave.net

Mae copïau o’r taflenni ar gael i’w prynu o’r Pafiliwn Cymunedol a Siop y Llan yn Nolwyddelan, yn nhafarn yr Eagles ym Mhenmachno, ac yng ngorsaf betrol Shell a’r Ganolfan Wybodaeth Ymwelwyr ym Metws y Coed. Bydd yr holl elw a wneir o werthu’r taflenni’n cael ei roi tuag at gynnal y llwybrau cerdded ym Mhenmachno a Dolwyddelan. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â  mentersiabod@directsave.net

This post is also available in: English