Y pentref …
- Roedd y ffordd tipyn yn gulach ers talwm ger Castle Terrace.
- Capel Isaf ar y dde a Chapel Arwel ar y chwith, ar ffordd sydd ddim yno bellach oherwydd adeiladu’r rheilffordd drosto.
- Castle Terrace.
- Stryd yr Eglwys.
- Stryd yr Eglwys yn edrych i gyfeiriad yr eglwys.
- Stryd yr Eglwys yn edrych i gyfeiriad y Sgwâr.
- Dolwyddelan a Moel Siabod.
- Pont Dolwyddelan.
- Pont Dolwydelan tua’r flwyddyn 1908.
- Castell Dolwyddelan.
- Pentref Dolwyddelan.
- Llun gan Raymond Pritchard o Ddolwyddelan tua’r flwyddyn 1949.
- Edrych i lawr ar y pentref.
- Dyffryn Lledr o’r ochr isaf i’r pentref.
- Y Co-op newydd. Y SPAR bellach.
- Popty 11 Castle Terrace. Bu’n gaffi’n ddiweddarach ac yna’n siop drin gwallt.
- Y Co-op cyntaf, yn lle mae’r Gofeb Rhyfel heddiw.
- Cofgolofn a Chastell Dolwyddelan.
- Yr hen felin wlan.
- Y Swyddfa Post yn 1905.
- Yr olygfa o Lluest.
- Y pentref yn niwedd y 19eg Ganrif.
- Y pentref a’r Lledr.
- Gwesty’r Gwydyr a’r Sgwâr, tua’r flwyddyn 1905.
- Gwesty’r Gwydyr ac injan dynnu ar y chwith.
A’i phobl …
- Alice Roberts, Amnen, Maes y Braich.
- Azuba Jones (ar y chwith) yn 1912 adeg dadorchuddio plac i gofio Thomas Lloyd, awdur ‘Y Bwthyn To Gwellt’.
- Betty a Bob Price y tu allan i’r Hendre.
- Cledwyn.
- Dora, Betty a Bob (y bobl eraill yn anhysbys).
- O’r chwith: Glenda Jones, Ruth Jones, Rita Dauncey, Shirley Goodwin, Margaret Rees, Mary Roberts, Anna W. Williams a Robert Williams.
- Priodas Gill a John. Copi o lun Nellie.
- Ian a Bob Price.

Priodas Elizabeth Jones (merch John ac Ann Jones a chwaer J R Jones) â Christopher Jones, 8 Golygfa Bennar, Blaenau Ffestiniog, yng Nghapel Moreia yn 1908.
Un o’n teuluoedd …

J R Jones (Bob 1869 – 1939?) 14 Castle Terrace. Mab hynaf Ann a John Jones. Y fo oedd masnachwr glo’r ardal ac roedd ei swyddfa mewn cwt yn iard yr orsaf. Yn ddiweddarach fe symudwyd y cwt i Hafannedd, Castle Terrace.
Capel ac Eglwys …
- Capel Moriah 1927. Ymhlith y rhai yn y llun mae Griffith Price, Cledwyn Price, Idris Jones, Griffith Williams a Lewis Parry.
- Côr Cymysg Dolwyddelan tua’r fwyddyn 1948.
- Esli, Ellis, Dafydd Avonwy a Selina Roberts y tu allan i Gapel Moriah.
- Festri Capel Moriah yn 1932.
- Eglwys Gwyddelan Sant.
- Y Parch. T J Morgan a Chapel Moriah.
Pentre Bont …
- Golygfa o Bentre Bont dros bont Dolwyddelan.
- Hen dai ym Mhentre Bont.
- Llun o Bont Arennig wedi ei dynnu tua’r flwyddyn 1875 gan John Thomas.
Gorsaf Drenau Dolwyddelan …
- Injan stêm yng ngorsaf Dolwyddelan.
- Gorsaf Dolwyddelan yn yr 1880au.
- Trên ar ei ffordd i’r Blaenau yn yr 1970au.

Trawsnewidydd Ferranti ar ei ffordd i orsaf drydan Ffestiniog. Roedd ei siâp pengrwn wedi ei ddylunio’n arbennig i ganiatáu iddo fynd drwy dwnnel Blaenau. Bu oedi cyson wrth iddo symud drwy’r twnel oherwydd yr angen i’w symud o ochr i ochr ar y drol gan fod prin modfedd rhwng ei ochrau a waliau carreg anghyson y twnel.
‘Ddoe a Heddiw’ …
- Bron Llan gan Dennis Miller.
- Stryd yr Eglwys.
- Yr orsaf drenau.
- Yr orsaf drenau unwaith eto.
- Edrych i gyfeiriad Pentre Bont.
- Y Lledr (y llun du a gwyn gan Francis Frith).
- Eglwys Gwyddelan Sant.
- Tyddyn Elan (y llun gwreiddiol gan Dennis Miller).
- Gwesty’r Gwydyr.
This post is also available in: English