Labrinth Plas Penaeldroch Manor

Yma ym Mhlas Penaeldroch rydym ni wedi gosod labrinth yn ein gardd isaf. Mae croeso i bawb gerdded drwy’r labrinth, gyda sŵn Afon Lledr yn llifo dan Bont-y-Pant yn y cefndir.

Mae pobl wedi bod yn defnyddio labrinthau ers cannoedd o flynyddoedd fel rhan o sesiynau myfyrio wrth gerdded. Byddwch chi’n mynd i mewn i labrinth Plas Panaeldroch drwy’r unig fynedfa ac yn dilyn y llwybr troellog sengl at y canol.

Fe allwch chi ystyried y llwybr hwn fel alegori bywyd: wrth ichi gerdded, yn raddol byddwch chi’n dod at ‘ben eich taith’ – y canol – ac yna’n symud ymhellach i ffwrdd unwaith eto; hwyrach ymlaen efallai y byddwch chi’n gweld eich bod wedi eich synnu pan fyddwch chi o’r diwedd yn cyrraedd eich nod.

Mae croeso i ymwelwyr fwynhau’r heddwch tawel, sydd bron â bod yn fyfyriol, wrth gerdded ar hyd y llwybr traddodiadol hwn.

Y labrinth dan haul ddiwedd pnawn o faes parcio uchaf y caffi.

Wedyn, mwynhewch baned neu ddiod yn ein Caffi/Bwyty trwyddedig lle caiff bwyd a chacennau cartref, Cymreig eu gweini’n ddyddiol.

[Plas Penaeldroch Manor]

Sgroliwch i lawr ar gyfer ‘Taith at Eglurder’

Os nad ydych chi’n gyfarwydd gyda’r dull o gerdded drwy labrinth, efallai bydd yr wybodaeth ganlynol o fudd ichi:

Taith at Eglurder

  1. Man Cychwyn – arhoswch am funud er mwyn meddwl beth ydy eich bwriad.
    Byddwch yn barod i fod yn agored ar y daith hon: efallai bydd y labrinth yn mynd â chi i lefydd na fyddwch chi’n disgwyl mynd iddyn nhw. Wrth ichi sefyll wrth y fynedfa, anadlwch yn ddwfn. Anadlwch allan yn llwyr ac yn naturiol. Gadewch i’ch anadl arwain eich bywyd ar yr eiliad hon. Dewiswch adael rhai teimladau ac anghenion wrth y fynedfa cyn ichi symud ymlaen – gofynnwch beth sy’n mynd â’ch sylw rhag bod yn bresennol yn yr eiliad hon a gwrandewch yn astud.
  2. Ar y Daith i Mewn – dewch o hyd i ba mor gyflym mae eich corff am symud.
    Byddwch yn ymwybodol o’ch corff wrth ichi fynd i mewn i’r labrinth. Parhewch i anadlu’n ddwfn, gan ryddhau pob anadl yn araf a dewch yn ymwybodol o unrhyw dyndra yn eich corff. Ceisiwch ymlacio ac ymddiried yn y llwybr rydych chi arno, gan nodi sut mae’r llwybr hwn yn cymharu gyda’ch bywyd.
  3. Yng Nghanol Bywyd – arhoswch yn y canol cyn-hired ag yr hoffech chi.
     Dyma eich bywyd chi – beth mae’n ceisio ei ddweud wrthych chi – ydych chi’n gwrando? Os bydd unrhyw beth yn tynnu eich sylw, peidiwch â theimlo’n euog – mae hynny’n iawn, ond anadlwch yn araf ac yn ddwfn nes eich bod chi’n dod yn ôl at yr eiliad hon. Sylwch ar y teimladau, meddyliau, lluniau a’r cwestiynau sy’n ffurfio eich taith ar yr eiliad hon. Diolchwch am eich rhoddion a derbyniwch nhw, rŵan, heb feirniadaeth nac amheuaeth.
  4. Ar Eich Ffordd Allan – ystyriwch y posibiliadau. Pan fyddwch chi’n barod, dechreuwch ddilyn y llwybr allan yn ôl at y fynedfa. Rhowch sylw i’ch corff – peidiwch â brysio, ond dewch o hyd i ba mor gyflym mae eich corff am symud.  Magwch gryfder gyda phob cam, gan ystyried sut gallwch chi blethu unrhyw gipolygon rydych chi wedi’u gweld yn ystod y cyfnod hwn i’ch bywyd. Gadewch i’r cyfnod hwn fod yn gyfle ichi gael eich annog. Wrth ichi adael y labrinth, cynigwch ‘ddiolch’; anadlwch yn ddwfn, ac ewch i mewn i fywyd!

This post is also available in: English