Y Maes Chwaraeon Aml-ddefnydd

MUGA

Mae’r Maes Chwaraeon Aml-ddefnydd ar gael y tu allan i oriau ysgol i’r bobl leol ac i ymwelwyr. Mae’r Maes wedi ei leoli ar iard yr ysgol a cheir mynediad iddo o gefn yr iard ger Parc Chwarae’r Plant. Mae o’n lle delfrydol ar gyfer gemau pêl-droed, pêl-fasged a phêl-rwyd.

* (Dydi hi ddim yn bosibl llogi cyfnod ymlaen llaw ar gyfer y cyfleusterau golff, tennis na’r maes chwarae aml-ddefnydd. Y ‘cyntaf i’r felin’ fydd yn chwarae, felly mae’n bosibl y bydd rhaid aros nes y bydd pobl eraill wedi cwblhau eu gemau/sesiynau)

This post is also available in: English